Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc
CYP(4)-03-12 Papur 3

 

Ymchwiliad I Fesur Dysgu A Sgiliau (Cymru) (2009)

 

Tystiolaeth gan Addysg Uwch Cymru

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ynghylch Addysg Uwch Cymru

 

Mae Addysg Uwch Cymru (AUC) yn cynrychioli diddordebau Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) yng Nghymru, ac yn gweithredu fel Cyngor Cenedlaethol Universities UK.  Mae Cyngor Llywodraethu AUC yn cynnwys Is-gangellorion pob SAU yng Nghymru.  Mae AUC yn gweithredu fel adnodd arbenigol ar y sector Addysg Uwch yng Nghymru.

 

Cyflwyniad

 

Mae Addysg Uwch Cymru yn croesawu'r cyfle i gyfrannu i’r ymchwiliad i weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) (2009).  Er bod AUC yn ystyried ei bod yn rhy gynnar yn y broses i ddarparu tystiolaeth galed o'r effaith y mae'r Mesur wedi ei chael ar y sector addysg uwch, gan fod rhy ychydig o bobl ifanc wedi mynd drwy'r system, mae'n ddefnyddiol bod y Pwyllgor wedi gofyn am wybodaeth yn seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi cael ei dderbyn cyn belled,  i ganiatáu i ni ymhelaethu ymhellach ar faterion penodol.

 

Mae’r ymateb hwn yn cyfeirio at y materion penodol mewn 4 grŵp:

 

1.  Ehangu Mynediad

2.  Llwybrau Dilyniant

3.  Parch Cydradd

4.  Cyngor Annibynnol

 

1.           Ehangu Mynediad

 

·         Pa newidiadau y mae'r sefydliadau addysg uwch (SAUau) yng Nghymru yn disgwyl eu gweld yn sgil gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau 2009?   Er enghraifft, newidiadau i nifer ymgeiswyr a chymwysterau ymgeiswyr i gyrsiau addysg uwch. 

 

Mae'r data diweddaraf sydd ar gael gan HESA ar gymwysterau mynediad yn dangos cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy'n mynd i addysg uwch gyda chymwysterau galwedigaethol. Gan fod y ffigurau hyn wedi’u cael cyn y Mesur, nid yw’n bosibl priodoli ei gyflwyniad i’r newidiadau, ond mae’n ddangosydd cadarnhaol, ac nid oes unrhyw reswm pam na ddylai’r cynnydd hwn barhau.

 

Mae'n bosibl y bydd effaith amrywiol ar nifer y cymwysterau, yn seiliedig ar wahaniaethau  mewn ariannu o fewn a rhwng awdurdodau lleol sy’n ymwneud ag adran cymorth dysgu'r Mesur, yn ogystal ag effaith amrywiol cydlynu a rheoli’r Rhwydweithiau Dysgu 14-19 gan yr awdurdodau hynny. Rhagwelir y bydd cyflwyno'r Mesur yn arwain at ddatblygu Bagloriaeth Cymru ymhellach, gyda llawer o ysgolion yn defnyddio anogwyr wrth ddatblygu sgiliau galwedigaethol myfyrwyr, a phortffolios profiad gwaith.

 

·           Sut fydd gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) yn helpu i ddatblygu blaenoriaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â chyfiawnder cymdeithasol ac ehangu mynediad i addysg uwch?

 

Yn sgil y Mesur, mae'r Pwyllgor wedi clywed tystiolaeth anecdotaidd ac empirig bod y dewis ehangach o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd  wedi arwain at fwy o bobl ifanc yn aros ymlaen yn yr ysgol neu yn y coleg tan eu bod yn 18/19 mlwydd oed. Mae posibilrwydd y gallai hyn gynyddu nifer y bobl ifanc (yn enwedig y rhai o gefndiroedd anhraddodiadol), fydd yn gwneud cais am gyrsiau addysg uwch.  Mae’n gwbl hanfodol bod y y system ffioedd tiwtora newydd yng Nghymru a'r gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru, yn cael ei chyfathrebu'n glir. Os nad yw darpar fyfyrwyr yn deall y cynnig sydd ar gael iddynt, mae perygl y gallai'r system ffioedd newydd weithio yn erbyn yr union grwpiau y mae’r Llywodraeth yn ceisio eu targedu gyda'i pholisïau cyfiawnder cymdeithasol ac ehangu mynediad.

Derbynnir bod gan y darpar fyfyrwyr hynny o ardaloedd cefnog well dealltwriaeth ar y cyfan ynghylch mynediad i brifysgolion a'r gefnogaeth sydd ar gael, ac nad yw’r rhai hynny o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf neu gymdogaethau a theuluoedd sydd heb gymryd llawer o ran o’r blaen mewn addysg uwch, mor wybodus. Mae hyn yn bryder cynyddol.  Nid yw’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y pryderon hyn ar gael eto.

 

2.  Llwybrau Dilyniant

 

·           A yw gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) wedi cael unrhyw effaith ar lwybrau dilyniant i addysg uwch?

 

Gwelwyd enghreifftiau o newidiadau yn y penderfyniadau sydd yn cael eu gwneud gan bobl ifanc i barhau i addysg uwch o edrych ar y dystiolaeth yn astudiaethau achos yr Anogwyr Dysgu a gyhoeddwyd yn 2008 gan Lywodraeth Cymru a hefyd, ym mentrau awdurdodau lleol ac ysgolion  a cholegau unigol, er enghraifft Caerffili, Merthyr, y Fro, Powys a Chastell-nedd. Nid yw hwn yn batrwm cyson ar gyfer pob rhan o Gymru.  Yn sylfaenol, mae angen gwella cyfradd cyrhaeddiad Cyfnod Allweddol 4 ysgolion, sef 40% ar hyn o bryd, er mwyn cynyddu’r nifer sy’n symud ymlaen i AU.

 

·           Sut fydd y dewis ehangach o gyrsiau academaidd a galwedigaethol i bobl ifanc rhwng 14 a 16 oed, o ganlyniad i weithredu'r Mesurau Dysgu a Sgiliau (Cymru), yn effeithio ar bolisïau derbyn sefydliadau addysg uwch Cymru?

Ceir tystiolaeth o ddewis ehangach drwy’r dewislenni opsiynau sydd wedi cael eu cyhoeddi  gan bob rhwydwaith 14-19, ond nid yw’r sylfaen dystiolaeth yn ymwneud â sut mae’r dewis ehangach hwn wedi cael effaith ar bolisïau ym maes AU ar gael eto.  Ceir rhagor o wybodaeth am dderbyniadau isod, sydd wedi’i gysylltu â’r cwestiwn o barch cydradd.

 

3. Parch Cydradd

·           A wnaed cynnydd tuag at sicrhau parch cydradd rhwng cyrsiau galwedigaethol ac academaidd o ran polisïau derbyn i gyrsiau addysg uwch?

Mae polisi derbyn sefydliad yn tanseilio popeth y mae'n ei wneud wrth dderbyn myfyrwyr – o ymholiadau, recriwtio a gwaith allgymorth, i wneud penderfyniadau, trosglwyddo data i UCAS, adeiladu perthnasau, amrywiaeth, cymorth pontio, cofrestru a thu hwnt. Mae'r holl brifysgolion ar draws y DU yn gweithio'n agos gyda'r rhaglen Cefnogi Proffesiynoldeb mewn Derbyniadau (SPA) i ddatblygu derbyniadau teg i gynnal a gwella rhagoriaeth a phroffesiynoldeb y maes derbyniadau, recriwtio myfyrwyr ac ehangu mynediad. Mae'r rhan fwyaf o brifysgolion yn defnyddio’r un polisïau derbyn ar gyfer cyrsiau galwedigaethol ac academaidd, er bod y cyntaf yn tueddu i ddefnyddio cyfweliadau fel gofyniad ychwanegol i asesu addasrwydd proffesiynol. Wrth i’r meini prawf derbyn ar gyfer cyrsiau ddatblygu, mae llawer o brifysgolion yn ymwybodol bod rhai cymwysterau yn paratoi myfyrwyr yn well ar gyfer astudio ar lefel AU nag eraill. Fodd bynnag, nid rhaniad galwedigaethol/academaidd mo hwn o reidrwydd, ac mae swyddogion derbyn yn monitro cynnwys cwrs a chwricwlwm y cymwysterau ‘newydd’ o hyd (galwedigaethol ac academaidd).  Fel pwynt cyffredinol, bydd llawer yn dibynnu ar ddiffinio’r cyrsiau galwedigaethol ac academaidd sydd yn cael eu hastudio,. Er enghraifft, ydy gradd mewn meddygaeth yn cael ei hystyried yn gwrs galwedigaethol neu academaidd?

Mae gan bob prifysgol yng Nghymru draddodiad cryf o werthuso addasrwydd ymgeiswyr ‘yn eu holl agweddau’ p’un a yw’r cymwysterau a gyflwynir yn y cais yn alwedigaethol a/neu’n academaidd. Fel hyn, sicrheir parch cydradd rhwng cyrsiau galwedigaethol ac academaidd.  Fel rhan o bolisïau ehangu mynediad, mae prifysgolion yn ceisio darparu cyfleoedd i bawb sy'n gallu manteisio o’r profiad -  y pwynt pwysig yw asesu potensial unigolyn i lwyddo ym maes addysg uwch, yn hytrach na’u hasesu’n unig ar y cymhwyster y byddant yn debygol o’i ennill.

·           A oes llwybrau dilyniant galwedigaethol clir i fyfyrwyr sydd am gael mynediad i addysg uwch ar gyfer rhai o'r cyrsiau AU, neu bob un ohonynt?

 

Mae nifer y bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau dilyniant i astudio ar lefel AB ac AU yn tyfu yng Nghymru.  Mae llwybrau’n cynnwys  Campws Cyntaf, Cyrsiau Blasu  Lefel 4 14-19 ac Estyn Allan - Dysgu fel Teulu.  Mae Sefydliad Prifysgolion Blaenau'r Cymoedd er enghraifft, wedi datblygu strategaeth blasu 14-19 sy’n mapio dilyniant, sydd i fod i gychwyn ym Merthyr a Blaenau Gwent ym mis Ionawr 2012.

 

4. Cyngor Annibynnol

 

·           A oes cyngor annibynnol proffesiynol ar gael i bobl 14 ac 16 oed (a'u rhieni) am lwybrau dilyniant i gyrsiau addysg uwch, yn enwedig i bobl ifanc sy'n bwriadu dewis cyrsiau galwedigaethol?

 

Ceir rhywfaint o dystiolaeth anecdotaidd bod gan rieni safbwyntiau arbennig yn ymwneud â’r cwestiwn o gyrsiau galwedigaethol yn erbyn cyrsiau academaidd. Ar hyn o bryd, mae'n anodd gweld sut bydd deddfwriaeth yn unig yn newid canfyddiad cyrsiau galwedigaethol, ond mae'n bosibl y bydd hyn yn newid dros amser.

 

Fodd bynnag, mae cyngor annibynnol ar gael:

 

Gwasanaethau Presennol - Mae gan bobl ifanc yng Nghymru hawl i gael cyngor annibynnol gan gynghorwyr gyrfaoedd cymwysedig.  Mae’r rhaglen o wybodaeth, cyngor ac arweiniad annibynnol ar yrfaoedd yn cyd-fynd â’r sgiliau cynllunio gyrfaoedd sy’n cael eu cyflwyno i bob plentyn ifanc 11-19 mlwydd oed fel rhan o'r cwricwlwm sylfaenol, yn unol â’r fframwaith Gyrfaoedd a Byd Gwaith.

 

Gwasanaethau’r Dyfodol: Uchelgeisiau’r Dyfodol Daeth astudiaeth annibynnol ar y gwasanaeth gyrfaoedd yng Nghymru 'Gyrfa Cymru: Adolygiad o safbwynt rhyngwladol' (Yr Athro A G Watts Mai 2009 Dogfen Ymchwil Rhif: 033/2009) i'r casgliad canlynol:  ‘Mae’r sylw i faterion yn ymwneud ag ansawdd yn Gyrfa Cymru yn hynod, ac yn gymharol â’r arfer rhyngwladol gorau. '(tudalen 51). Mae astudiaeth yr Athro Watts hefyd yn tynnu sylw at y lefelau uchel o adnoddau a chanlyniadau yng Nghymru, o’i gymharu â rhannau eraill o'r DU. (tudalen 14).

Cyhoeddwyd 'Uchelgeisiau i'r Dyfodol: datblygu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru' (LlC 10-11 11097) fis Tachwedd 2010, i adeiladu ar astudiaeth yr Athro Watts ac i edrych y tu hwnt i'r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan Gyrfa Cymru i’r ‘teulu’ gyrfaoedd ehangach.  Mae'n disgrifio mewn peth dyfnder yr ystod eang o ddarparwyr gwasanaethau gyrfaoedd; addysg uwch, addysg bellach, ysgolion, colegau, Darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith, Canolfan Byd Gwaith, Cynrychiolwyr Dysgu'r Undebau yn ogystal â Gyrfa Cymru -  'teulu' cyfan o ddarparwyr gwasanaethau gyrfaoedd.  Mae'r adroddiad yn dadansoddi’r berthynas rhyngddynt ac yn ceisio cwmpasu gwasanaeth mwy cydlynol sydd yn rhannu’r un hunaniaeth a chanlyniadau - dinasyddion sy'n gallu gwneud dewisiadau dysgu a gyrfaoedd gwybodus, ac sy’n ymwybodol o'r gwasanaethau sydd wrth law i’w cynorthwyo i gyflawni eu dewisiadau. Mae'r 60 o argymhellion manwl a nodir yn Uchelgeisiau i’r Dyfodol yn llunio sylfaen Cynllun Gweithredu canolig / hirdymor i wireddu'r weledigaeth hon.

Crynodeb

 

Mae Addysg Uwch Cymru yn croesawu’r Mesur,ac yn edrych ymlaen at elwa o ragor o ddata, er mwyn gallu darparu dadansoddiad sy’n fwy seiliedig ar dystiolaeth yn y dyfodol.

 

ADDYSG UWCH CYMRU

IONAWR 2012